Sylfaenwyd Cymdeithas Hynafiaethiau Sir Gaerfyrddin ym 1905, ac mae hi'n un o gymdeithasau hynafiaethau sirol mwyaf blaengar Cymru. O'i chychwyn, gwelodd y sefydlwyr yr angen i gofnodi, cyhoeddi a chasglu popeth i hanes, hynafiaethau a hanes natur Sir Gaerfyrddin yn enwedig, a Gorllewin Cymru'n gyffredinol. Mae hi wedi cynnal yr amcan hon trwy gydol ei hanes. Mae hi wedi'i dilyn yn rhannol drwy gyhoeddiadau ysgolheigaidd, drwy'r Transactions (i1939) a'r Carmarthenshire Antiquary (1941 i'r presennol).

Dechreuodd fel 'clwb maes', ac mae ganddi raglen bywiog o Ddiwrnodau Maes hyd heddiw, gyda rhaglen aeafol o ddarlithoedd yn ychwanegol.

 

Ymunwch â ni!

Rhif Elusen - 260705

 

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn dilyn mlaen o'r diwrnod maes yn Awst i Neuadd Middleton yn y GFGC efallai bydd y canlynol o ddiddordeb.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cadw i fyny â'r datblygiadau yn y GFGC  cliciwch ar y ddolen isod. Bydd hon yn mynd â chi i dudalen we (sy'n gofyn am eich enw ac eich ebost) lle byddwch yn gallu cofrestru i dderbyn y gylchlythyr 'Paradise Regained'.

http://eepurl.com/bgpr7P

 

Datblygiadau diweddaraf am gau Archifau Sir Gaerfyrddin

http://jddavies.com/2015/07/06/carmarthenshire-archives-farce-or-greek-tragedy/

 

DIGWYDDIADAU I DDOD

 

 

 

 

 

 

Perthnasedd Pantycelyn: Coleg Llanymddyfri, 20 Mai 2017, Digwyddiad yn Nghymraeg  - Darperir cyfieithu ar y pryd.

Un o'r dylanwadau pennaf ar hanes, diwylliant a byd-olwg Cymru ar hyd 1,500 o flynyddoedd ei bodolaeth yw'r ffydd Gristnogol. ‘Pan ffurfiwyd Cymru, pan luniwyd yr enw a llunio'r iaith, yr oeddym eisoes yn Gristnogion', meddai Saunders Lewis, gan ychwanegu: ‘Delfrydau Cristnogaeth a bennodd ein meddwl.' Dros y cyfnod hir hwnnw, cynhyrchwyd toreth o lenyddiaeth Gristnogol o bob math: pregethau, esboniadau, ysgrifau defosiynol, traethodau diwinyddol, nofelau, cerddi, emynau, ac yn y blaen.

Un o gewri mwyaf Cristnogaeth Gymraeg yw William Williams o Bantycelyn, a aned 300 mlynedd yn ôl yn 1717. Roedd yn awdur cynhyrchiol dros ben. Mae'n fwyaf adnabyddus fel emynydd, wrth gwrs. Lluniodd yn agos i fil o emynau, ac mae nifer ohonynt yn parhau i gael eu canu'n gyson bob wythnos ymhob rhan o Gymru. Ond ysgrifennodd bob math o weithiau eraill, yn farddoniaeth ac yn rhyddiaith, ar bynciau amrywiol iawn.

Yr hyn sy'n uno holl weithiau Williams Pantycelyn yw eu bod wedi eu bwriadu i helpu pobl i fyw'r bywyd Cristnogol o ddydd i ddydd. Cynorthwyo pobl i foli Duw a mynegi eu teimladau a'u profiadau oedd diben ei emynau. Mewn gweithiau eraill mae'n trafod sut i ymddwyn wrth addoli a sut mae dadansoddi a dilysu profiadau ysbrydol. Mae gweithiau eraill yn disgrifio mawredd ac amrywiaeth y greadigaeth, tra bo eraill yn trafod yr heriau a'r sefyllfaoedd amrywiol sy'n wynebu Cristnogion ar eu taith trwy'r byd: gwyriadau diwinyddol, problemau priodasol, sut i drin arian ac eiddo, a themtasiynau o bob math.

Er bod rhai o emynau Pantycelyn yn dal yn gyfarwydd i lawer, mae'r rhan fwyaf o'i weithiau yn ddieithr i Gristnogion Cymru heddiw. Er mwyn tynnu sylw at y trysorau cudd hynny, cynhelir diwrnod arbennig yn dwyn y teitl ‘Perthnasedd Pantycelyn' yng Ngholeg  Llanymddyfri ar 20 Mai, rhwng 10.00am a 4.00pm. Pris  Cofrestru: £10

Bwriad y diwrod yw trafod croestoriad o weithiau Williams Pantycelyn. Er y bydd rhai o'r siaradwyr yn arbenigwyr ar ei fywyd a'i waith, nid trafod Williams Pantycelyn yn ‘hanesyddol' ac yn ‘academaidd' fydd pwyslais y diwrnod, ond yn hytrach archwilio gwerth a pherthnasedd ymarferol gweithiau Pantycelyn i ni heddiw.

Dyma raglen y diwrnod:

10.00–10.15: Cyrraedd a chofrestru

10.15–10.30: Gair o groeso (Hywel Meredydd)

10.30–11.00: ‘Pêr Ganiedydd Cymru a Phêr Ganiedydd Israel' (Robert Rhys)

11.00–11.30: Emyr James ar y gerdd hir, Bywyd a Marwolaeth Theomemphus

11.30–11.45: Toriad i goffi

11.45–12.15: Goronwy Prys Owen ar Drws y Society Profiad

12.15–13.45: Toriad i ginio (trefniadau personol)

13.45–14.15: John Aaron ar Crocodil Afon yr Aipht

14.15–15.30: ‘Darllen Pantycelyn Heddiw' —

Robert Rhys yn cadeirio panel fydd yn cynnwys Menna Machreth,

Andras Iago, Lois Dafydd, a Gwilym Tudur

15.30–16.00: Trafodaeth agored i gloi dan gadeiryddiaeth E. Wyn James

 

 

Diploma mewn Archaeoleg Gwyddelig

Mae'r diploma hwn ar-lein yn llawn, er mwyn hwyluso ymgyfrangogiad pawb mewn gwledydd a pharthau amser gwahanol, ac yn cael ei gynnig gan arbenigwyr ar archaeoleg Gwyddelig. Mae gennym gyfranogwyr o'r Iwerddon, y Deyrnas Gyfunol, Sbaen, yr Almaen, Canada, yr Unol Daleithiau ac Awstria, ar hyn o bryd – a byddem yn falch iawn i gynnal a pharhau'r amrywiaeth hon.

Gellir cael mwy o wybodaeth trwy glicio yma, ac mae ffurflenni cais ar-lein i'w canfod yma.

Gellir lawrlwytho taflen ar-lein mewn diwyg PDF yma.

 

Llyfr newydd i'w gael o Gymdeithas Hunafiaethau Sir Gar - Pris £3

 

 

Y Flwyddyn Hynafiaethol o dan Arolwg 2013
gan Jeremy John

 

 

 

Gweler rhai lluniau o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas yn 2014.